Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (168) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 6 eu grwpio. Atebwyd cwestiynau 4, 7 a 10 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg.
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymgyrch Jasmine
Dechreuodd yr eitem am 14.56
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.10
NNDM5358
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi â phryder difrifol:
a) yr achosion o droseddwyr yn targedu plant agored i niwed er mwyn cam-fanteisio’n rhywiol arnynt;
b) bod plant sydd ar goll o ofal yn wynebu perygl penodol o gam-fanteisio rhywiol;
c) y dystiolaeth nad yw awdurdodau lleol yng Nghymru hyd yma yn gweithredu’n llawn ganllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant sy'n mynd ar goll o ofal;
d) y gall yr arfer o leoli y tu allan i ardal olygu bod plant sy'n derbyn gofal yn wynebu mwy o berygl o gamdriniaeth a cham-fanteisio.
2. Yn cymeradwyo gwaith Prosiect Plant ar Goll Gwent ac yn nodi'r angen am ddata cymaradwy, cyson a dibynadwy ar yr achosion o blant sy'n derbyn gofal sy'n mynd ar goll o gartrefi plant a gofal maeth.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Dechreuodd yr eitem am 15.54
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5380 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod:
a) pwysigrwydd y BBC ym mywyd Cymru fel rhan o’r cyfryngau amrywiol;
b) yr angen i adnewyddu'r siarter sy'n adlewyrchu'r setliad datganoli presennol a'r setliad datganoli sy'n datblygu; a
c) y cyfraniad arloesol y mae'r BBC a darlledwyr cyhoeddus eraill yn ei wneud i ddiwylliant Cymru, y Gymraeg a'r economi.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
15 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
6 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.49
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;
b) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;
c) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; a
d) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.
2. Yn gresynu:
a) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;
b) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;
c) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru;
d) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a
e) methiant cyrff y sector cyhoeddus i weithredu Polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;
b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;
c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai; a
d) archwilio manteision sefydlu banc datblygu busnes cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
10 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 1a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod 29.8% o bobl Cymru yn cael eu cyflogi yn y sector cyhoeddus, sy’n uwch na 23.5%, sef cyfartaledd y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 1:
bod economi’r DU wedi cynyddu 0.8% yn ystod trydydd chwarter 2013, sy’n pwysleisio llwyddiant polisi economaidd Llywodraeth y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
37 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 2a) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.
Gellir gweld yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ yn: http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/accesstofinance/?skip=1&lang=cy
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 2b) a rhoi yn ei le:
methiant Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r ysgogiadau economaidd sylweddol sydd ar gael iddi er mwyn sbarduno twf yn economi Cymru;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 2e).
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
0 |
10 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
mabwysiadu polisi’r Ceidwadwyr Cymreig i ymestyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a darparu rhyddhad sy’n lleihau’n raddol i’r rheini sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu is-bwynt 3c) a rhoi yn ei le:
ymestyn rhyddhad ardrethi busnes i bob busnes sydd â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai, ac i fwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai a siopau annibynnol; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
38 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys is-bwynt 3d) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
rhoi cyfle i awdurdodau lleol gadw cyfran o’r ardrethi busnes y maent yn eu casglu er mwyn ysgogi twf economaidd lleol;
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 3d) a rhoi yn ei le:
ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’.
Gellir gweld adroddiad yr ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2’ yn:
http://wales.gov.uk/docs/det/publications/131121accesstofund2en.pdf
Gellir gweld ‘Buddsoddi Cymru’ yn:
http://yourvoiceintheassembly.co.uk/wp-content/uploads/2013/01/Buddsoddi-Cymru-FINAL1.pdf
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
15 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Gwelliant 11 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 11.
Gwelliant 12 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 12.
Gwelliant 13 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 13:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 13.
Gwelliant 14 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 14:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
56 |
0 |
0 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 14.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5379 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) y twf yng Nghynnyrch Mewnwladol Crynswth y DU yn 2013;
b) mai'r bwlch cyllido a amcangyfrifir rhwng y galw am gyllid gan fusnesau Cymru a'r cyflenwad presennol o'r sector bancio yw £500 miliwn;
c) bod ardrethi annomestig yn cyfrif am gyfran sylweddol o gostau gweithredu ar gyfer microfusnesau a busnesau bach;
d) bod cynnydd o 1% yng nghyfradd contractau caffael y sector cyhoeddus sy'n mynd i fusnesau Cymru yn creu 2,000 o swyddi newydd; ac
e) bod adnoddau naturiol Cymru yn cynnig cryn botensial ar gyfer budd economaidd.
2. Yn gresynu:
a) bod oddeutu 200,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru yn cael trafferth cael gafael ar gyllid, yn ôl adroddiad Cam 1 o’r ‘Adolygiad o’r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru’ gan yr Athro Dylan Jones-Evans.
b) mai’r GYC y pen yng Nghymru yw'r isaf o blith pob un o wledydd y DU sef cyfradd o 75.2% o ffigur y DU;
c) bod dulliau macro-economaidd yn aros yn nwylo Aelodau Seneddol yn Senedd y DU ond yn cydnabod bod gan Lywodraeth Cymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran tyfu economi Cymru;
d) absenoldeb dangosyddion economaidd cyfredol i Gymru; ac
e) methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â diweithdra a thangyflogaeth; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyhoeddi cynllun cynhwysfawr a hirdymor ar gyfer tyfu economi Cymru;
b) bwysleisio i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yr angen i ddarparu dangosyddion economaidd rheolaidd a mynych i Gymru;
c) mabwysiadu polisi Plaid Cymru i estyn rhyddhad ardrethi busnesau bach i bob busnes â gwerth ardrethol o £15,000 neu lai;
d) ymateb cyn gynted â phosibl i adroddiad yr Adolygiad o'r Cyllid sydd ar gael i Fusnesau yng Nghymru – Cam 2, ac ystyried yr achos dros ddatblygu banciau busnes rhanbarthol fel yr amlinellwyd yn ‘Buddsoddi Cymru’;
e) ystyried y posibilrwydd o rannu lluosydd Cymru yn fusnesau bach a mawr, a fyddai'n sicrhau bod y system ardrethi busnes yn deg a bod Cymru ar yr un lefel â Lloegr a'r Alban;
f) sicrhau bod polisïau’r llywodraeth yn symleiddio ein rheoliadau a’n prosesau caffael ar gyfer y sector cyhoeddus;
g) cefnogi mentrau cymdeithasol a busnesau llai a'u galluogi i dyfu drwy ddadfwndelu contractau'r sector cyhoeddus yn rhannau mwy hylaw, gan ei gwneud yn haws i'r busnesau hyn gyflwyno cynigion a chystadlu; a
h) gweithio i godi ymwybyddiaeth ymysg busnesau o gyfleoedd cyllid sy’n bodoli ar hyn o bryd, a gwrando ar y gymuned fusnes ynghylch ffyrdd o wella cymorth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.47
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.55
NDM5378 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Yr “hun-lun” cenedlaethol: pam mae geiriadur cenedlaethol Cymraeg yn helpu i ddiffinio’r genedl
Daeth y cyfarfod i ben am 18:17
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 10 Rhagfyr 2013